Anafiadau Traffig Ffyrdd ymysg pob grŵp oedran – ymweliadau ag adrannau brys

Cyfraddau fesul 100,000 o’r boblogaeth ar gyfer ymweliadau ag adrannau brys yn ymwneud ag anafiadau traffig ffyrdd. Ceir pwyntiau data coll oherwydd bod cyfrifiadau yn rhy fach i gael eu cyflwyno’n gyhoeddus (i atal y perygl o ddatgelu). Gellir defnyddio panel dewis ar ochr dde y dudalen i ddewis y flwyddyn o ddiddordeb neu i gyflwyno data yn ôl Awdurdod Lleol/Byrddau Iechyd. Gellir lawrlwytho’r canlyniadau crai a’r graffiau trwy glicio ar y ddolen lawrlwytho ar yr ochr dde ar y gwaelod. Gallwch lawrlwytho data o un graff ar y tro yn unig – cliciwch ar deitl y graff y mae gennych ddiddordeb ynddo i ddewis y graff hwn i’w lawrlwytho.

Argymhellir bod y canlyniadau hyn yn cael eu dehongli’n ofalus. Gallai gwahaniaethau penodol rhwng ALl/BI ymwneud â gwahaniaethau mewn ymarfer clinigol neu ymarfer codio data rhwng ysbytai, yn hytrach nag amrywiadau gwirioneddol ym mynychder anafiadau. Os ydych yn bwriadu defnyddio dangosyddion AWISS yn eich gwaith, fe’ch cynghorir i siarad ag aelod o dîm AWISS cyn cyhoeddi eich gwaith (s.turner@swansea.ac.uk).  

Am fwy o wybodaeth am y ffordd y cafodd y cyfraddau hyn eu cyfrifo, gweler yr adroddiad dangosyddion a’r  adran metadata..