Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) ar gyfer Cymru..
Mae’r PHOF yn nodi dealltwriaeth a rennir o’r canlyniadau iechyd sydd yn bwysig i bobl Cymru. Cafodd ei gyhoeddi ym Mawrth 2016 yn dilyn 15 mis o ddatblygu, ymgysylltu ac ymgynghori. Gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, cymunedau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau’r sector preifat a gwirfoddol yn ogystal ag unigolion a’u teuluoedd i ysbrydoli a llywio gweithredu i wella a diogelu iechyd a llesiant.
Mae pedwar o ddangosyddion PHOF yn canolbwyntio ar anafiadau:
- Torri cluniau ymysg pobl hŷn
- Marwolaethau yn ymwneud ag anafiadau
- Marwolaethau yn ymwneud ag anafiadau Traffig Ffyrdd
- Hunanladdiad
Cyflwynir y data ar y pedwar dangosydd hyn yn ôl oed, rhyw, amddifadedd a lleoliad trwy offeryn rhyngweithiol PHOF – cliciwch yma – am fwy o wybodaeth ac i gael mynediad at offeryn PHOF.